
Dyma weithdy hwyliog i’r teulu cyfan! Byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd i gynllunio ac adeiladu eich cert bocs eich hunan, ac yna mynd â’r cerbyd rasio anhygoel gartre gyda chi i’w addasu’n bersonol. Bydd Theatr Byd Bychan yn helpu gyda’r cynllunio a’r adeiladu, yn darparu’r olwynion a deunyddiau hanfodol eraill o ddeunyddiau ail-gylchu.
Oed 8+
£40 am bob cert bocs gyda hyd at 5 o bobol yn gwneud un cert.



