
Dyma gydgynhyrchiad cynhyrfus rhwng grŵp theatr corfforol i rai dros 60 sef Good News From The Future ag un a raddiodd mewn cyfansoddi o’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, sef Sam Barnes. Disgwyliwch yr annisgwyl, perfformiad rhydd a gwyllt sy’n cyfuno egnïon unigryw perfformwyr Good News From The Future a thrac sain byw gan Sam.
Mae gwaith GNFTF yn dathlu doethineb bodau aeddfetach, profiad y corff hŷn a natur anturiaethus pennau a deithiodd drwy amser. Maent yn hapus yn eu crwyn eu hunain ac yn rhydd o unrhyw lyffetheiriau am y modd y maent yn ymddangos, daw eu haeddfedrwydd â set newydd o bethau hudol i’r sioe. Ac yn y gwrthdrawiad difyr a dramatig o gyrff o wahanol oedrannau, mae’r rhaglen yn Theatr Byd Bychan hefyd yn cynnwys myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a greodd goreograffi trawiadol yn seiliedig ar arferion ac ymagweddau GNFTF.
Mae Good News From The Future yn cynnwys cyn aelodau o Brith Gof, Theatr Cardiff Laboratory, The Magdalena Project, Made in Wales, Man Act and Theatr Iolo. Caiff ei gydlynu gan Mike Pearson.



