
Dewch i ddiwrnod i weithdai sgwennu adfywiol gyda Kaite O’Reilly a Samantha Wynne-Rhydderch, caiff eich synhwyrau a’ch dychymyg eu bywiocáu.
Kaite O’Reilly
13:00 – 15:00
Mewn cyfres o ymarferion strwythuredig, anogir cyfranogwyr i archwilio llais, deinameg, telynegrwydd a rhythm-tempo – gan adael y geiriau i godi o’r dudalen. Gallwch ysgrifennu deialog, geiriau i’w perfformio neu farddoniaeth, fe fyddwch yn archwilio pŵer iaith gan weithio’n dechnegol a thrwy ddefnyddio’r dychymyg.
Samantha Wynne-Rhydderch
15:30 – 17:30
Yn cyfieithu synau, sawrau a lluniau a’u troi’n gerddi.
Nid dim ond rhwng ieithoedd y mae modd cyfieithu. Yn y gweithdy ymarferol hwn fe fyddwn ni’n cyfieithu sawrau, synau a delweddau a’u troi’n eiriau drwy dechnegau chwareus a dyfeisgar. Gan ddefnyddio ymagwedd celf a chrefft i ddarganfod sgwennu newydd, bydd y gweithdy hwn yn cynnig mewnwelediad i’r broses o gynllunio cerdd.
18:30 – 19:30
6.30pm – 7.30pm
Dyma noson o ddarlleniadau a pherfformiadau byr, bydd Kaite a Samantha yn cyflwyno detholiadau o’u cyhoeddiadau – dramâu llwyddiannus, monologau dramatig a cherddi arobryn mewn dathliad o’r gair, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Bydd y noson yn cychwyn gyda 15 munud o Feic Agored gan 2/3 sgwennwr ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech archebu slot, cysylltwch ar 01239 615 952.
£30 (mynediad i berfformiad gyda’r nos yn gynwysedig yn y ffi)



