
Ry’n ni wrth ein bodd i estyn croeso nôl i Ida Wenoe a The Wren Songbook – dau berfformiad poblogaidd iawn.
Artist indie-gwerin o’r radd ucha’ yw Ida. Mae rhyw arlliw o Americana yn ei cherddoriaeth a thinc Nordig a rhywbeth o harddwch mawr. Yn 2016 fe gyflawnodd daith ar wib 7 diwrnod o gwmpas y DU a arddangosodd ei thalent hollol unigryw fel artist unigol am y tro cyntaf. Mae wedi cael ei chwarae ar raglenni radio BBC6 Tom Ravenscroft a Gideon Coe.
“… a childlike fragility that makes the songs sound like whimsical folk for fairy tales with a sinister undertow. Her voice – weary but cute, with the power to cut through – is perfect; she sounds like the young narrator of her own magical-malevolent fantasies…” The Guardian
Mae cerddoriaeth o’i halbwm gyntaf newydd ei dewis ar gyfer rhaglen ddogfen yn Nenmarc “De Smukke Piger” ac ar gyfer enwebiad diweddaraf Gwobrwyon Gwerin Denmarc yn adran ‘Cyfansoddwr Caneuon y Flwyddyn’.
Band pedwar darn o ardal Aberteifi y The Wren Songbook. Mae’r cysylltiad rhwng y band a’u cynulleidfa yn creu awyrgylch glos gyda naws gartrefol, gynnes, wladaidd wrth i’w harmonïau lifo drwy alawon bluegrass a gwerin cyfoes. Mae eu dewisiadau cerddorol o dan ddylanwad y dirwedd hardd sy’n amgylchynu eu tref, o’r glannau gwyllt i’r llecynnau coediog tawel. Gallwch ddisgwyl clywed gitâr, ukelele, ffliwt ac o bosib banjo neu fandolin. Aelodau’r grŵp yw Ellie Bodenham, Phoebe Partridge, Ronnie Turner a Kev Griffiths. Ymhlith eu dylanwadau cerddorol mae Lisa Hannigan, The Staves, First Aid Kit a Mountain Man.


