
bar a drysau’n agor am 6.30yh
Mae Tom Allen, sy’n 23 oed, yn barod am yrfa 9 tan 5 ym myd TG. Ond y trwbwl yw, ‘dyw e’n methu help pendroni a oes mwy i fywyd. Er ei ddiffyg profiad, mae Tom yn seiclo a gwersylla ei ffordd o gwmpas y byd, gan ddod ar draws cast llachar o ffrindiau a gelynion. Mae’r siwrne yn mynd ar drywydd eitha’ annisgwyl pan mae e’n cwympo mewn cariad â Tenny, merch ewn o dras Iran-Armenaidd. Pan mae ei rhieni yn ei gwahardd hi rhag ei ddilyn e ar y lôn fawr agored, mae Tom yn wynebu penbleth: aros gyda Tenny neu barhau â’i antur ar ei ben ei hun?
aelodaeth: £1 (tâl un tro)



