
Cyflwynir gan Birdlife Productions o Seland Newydd
Mae mygydau Basel, Pypedwaith a miwsig piano gwreiddiol hollol hyfryd yn adrodd stori am antur annisgwyl sy’n cludo Plentyn y Lleuad yn bell oddi cartref! Beth sy’n ei disgwyl mewn byd newydd rhyfedd – ac a wnaiff hi ddychwelyd i’r Lleuad fyth eto? Gan dynnu ar ysbrydoliaeth byd o chwedlau tylwyth teg ac arfordiroedd eu cartref yn Seland Newydd, mae Birdlife Productions wedi creu antur enfawr am golled, hiraeth a chyfeillgarwch annisgwyl, a hynny heb yngan yr UN gair!
Gan ddefnyddio cruglwyth o ddefnydd, gwrthrychau coll a dogn da o ryfeddod, mae’r antur gynnes hon yn croesi ffiniau iaith a diwylliant, lle mae straeon yn cael eu hadrodd heb eiriau ond trwy ddelweddau gweledol a grym cerddoriaeth. I bawb o 5-95 oed!
£10 oedolyn | £5 plentyn dan 16 | £25 grŵp o 2 oedolyn a 2 blentyn



