
Estynnwn groeso mawr i chi i un o’r gweithdai gwneud llusern di-dâl yn Theatr Byd Bychan yn Aberteifi. Wrth greu llusern byddwch yn helpu goleuo’r dre greadigol hon i gyd!
Gobeithio y caiff pawb gyfle i wneud llusern fel y gallan nhw ymuno mewn Parêd drwy’r strydoedd a bod yn rhan o ddigwyddiad trawiadol iawn ar nos Wener 8 Rhagfyr o 7yh – 8.30yh.
Ar y noson honno, bydd y llu o siopau sydd yn Aberteifi yn agored ar gyfer siopa hwyr. Bydd Theatr Byd Bychan yn arwain y Parêd o Pendre Arts i Gastell Aberteifi lle bydd arddangosfa ysblennydd o dân gwyllt am 8yh.
Bydd y gweithdai yn hwyl ac yn greadigol. Da chi, anogwch eich ffrindie a theulu i wneud llusernau a dod i’r digwyddiad gwych hwn.
Mae’r llusernau’n cael eu creu o bapur tusw a glud PVA, felly dewch i’r sesiynau creu mewn hen ddillad (bydd rhai ffedogau ar gael hefyd).
Hoffem i chi archebu lle ymlaen llaw fel ein bod yn gwybod faint o staff fydd eu hangen arnon ni i helpu. A wnewch chi gysylltu â ni ar 01239 615 952 a siarad ag un o aelodau Theatr Byd Bychan. Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yp.
Gweld chi gyd cyn hir! ARCHEBWCH EICH LLE NAWR.
Addas i bob oed a gallu
Dim tâl mynediad.
Parêd Llusernau Gaeaf Aberteifi Creadigol
Gyda diolch i nawdd Awards for All y Loteri Genedlaethol ar gyfer Parêd Llusernau Gaeaf enfawr eleni, sy’n cael ei gyflwyno gan Cymdeithas Aberteifi a Theatr Byd Bychan.
Admission free of charge.



