
Archebwch le ymlaen llaw ac ymunwch mewn sesiwn gyhoeddus Gwneud Llusern yn rhad ac am ddim yn Theatr Byd Bychan ar
11 Tachwedd o 10.30am – 4pm
Mae Theatr Byd Bychan yn falch iawn i gyhoeddi y gall Aberteifi edrych ymlaen unwaith eto eleni at Barêd Llusernau Enfawr creadigol a llawn dychymyg ar Rhagfyr 7 am 7yh, diolch i grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Hoffem hefyd ddiolch i Bags of Help Tesco am eu cyfraniad i’r gweithdai gwneud llusernau a’r deunyddiau.
Treuliwch y bore yn creu fframwaith eich llusern gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Yn y prynhawn, amser blêr wrth ychwanegu glud a phapur tusw i’ch ffrâm wiail. Nodwch bydd rhaid i chi dreulio’r dydd gyda Theatr Byd Bychan. Dewch â chinio pecyn. Mae pob llusern yn cael ei storio yn ddiogel yn Theatr Byd Bychan tan y Parêd.
Canllawiau Gwneud Llusernau i’r Cyhoedd
Yn y Gweithdai Gwneud Llusernau mae lle i 70 o bobl bob dydd Sul ac ry’n ni’n cynghori pawb sydd am ymuno i archebu lle rhag blaen.
Addas i oedran 6+. Rhaid i oed 6-7 weithio gyda oedolyn.
Ry’n ni wedi cynllunio Llusern Pysgodyn newydd. Os hoffech wneud y pysgodyn mawr, byddwch yn gweithio mewn parau neu fel teulu. Nodwch y bydd rhaid i blant oed 8+ weithio gydag oedolyn.
Ry’n ni wedi dyfeisio Llusern Cwch ar gyfer oed 8+ sydd am weithio yn annibynnol.
Yn anffodus, oherwydd y galw mawr am leoedd, un gweithdy yn unig ar gyfer pob gwneuthurwr/ teulu sy’n cael ei gynnig eleni.
Eleni byddwn yn dathlu Blwyddyn y Môr trwy gyfrwng llusernau mawr iawn yn ogystal â channoedd o lusernau bychain ar gyfer gorymdaith wefreiddiol. Bydd y Parêd yn ymlwybro i fyny Stryd Fawr Aberteifi ac yn dod i ben ar dir Castell Aberteifi. Bydd anghenfil môr Theatr Byd Bychan, sef Cragen, yn ymddangos yn llawn goleuni ar yr Afon Teifi ar y Cei, gan nodi diwedd ei thaith wych cragenmoroeddglan.cymru
ARCHEBU: samba@smallworld.org.uk | 01239 615 952
Addas i oedran 6+. Am ddim




