
Mae Maya Mitten yn dychwelyd i Theatr Byd Bychan gyda gweithdy cyffrous newydd sbon. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn siŵr o gael diwrnod llawn miri a llwyddiannau creadigol. Gan ddechrau gyda hen lyfr, bydd Maya yn helpu pob un i greu cyfrol hudolus, unigryw gydag elfennau pop-yp, cyfosodiadau diddorol, negeseuon cudd a thorri mas. Mae enghreifftiau Maya ei hun yn ‘ddrws i fydoedd eraill’ hardd.
Darperir yr holl ddeunyddiau yn ogystal â lluniaeth ysgafn. Cysylltwch â’r artist i archebu lle a 01239 712 820 neu mayamitten.com/art-classes



