
Athro, arweinydd gweithdai a chefnogwr pêl droed brwd yw Jonny. Mae e newydd ddod yn dad. Mae ei ffrindiau yn dweud ei fod yn foi allblyg, ei fod yn caru cerddoriaeth, gwyliau a chlybiau nos. Mae Jonny yn fyddar. Cafodd ei eni yn blentyn byddar i rieni sy’n clywed a ofnai y byddai ei anabledd clyw yn creu stigma i’w mab a’u teulu.
Mae ‘Louder Is Not Always Clearer’ yn bortread gonest o natur fregus person byddar, wedi ei greu a’i berfformio gan berson byddar. I gynulleidfa sy’n clywed, dyma brofiad emosiynol sy’n taflu goleuni ar brofiad. I aelodau byddar y gynulleidfa mae’r sioe yn stori gyfarwydd o gamddeall ac unigrwydd. I bob cynulleidfa, mae’n stori ddoniol sy’n siglo rhywun ar brydiau, am ymgais un dyn i ymdopi, perthyn a chael ei dderbyn.
Mae Mr a Mrs Clark yn creu perfformiadau newydd a blaengar sy’n cyffroi cynulleidfaoedd. Cafodd y Clarks eu rhoi ar restr fer Gwobr Rhyddid Barn Amnest Rhyngwladol yn 2015 a chyflwyno (F.E.A.R.) fel rhan o ŵyl Cymru yng Nghaeredin yn 2017.



