
Drama Shakespeare mewn arddull hynod, anhraddodiadol gyda perfformiadau pwerus, cynllunwaith trawiadol a syndod i’r synhwyrau! Ry’n ni wedi llacio’r pwyslais ar symud a chymeriad er mwyn canolbwyntio’n sylw ar ddeinameg y pâr llofruddiol, gan ddilyn eu huchelgeisiau dieflig, eu gofidiau cynyddol a datgymaliad y cwlwm rhyngddyn nhw, a hynny yn erbyn cefndir o bleserau’r corff a ‘normalrwydd’ trais. Gallwch ddisgwyl Macbeth hwyliog, llawn egni, a hiwmor amrwd ac is-gerrynt o falais cryf yn gwau drwyddo. Mae’r cynhyrchiad hwn yn un delfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y ddrama ei hun a thechnegau perfformio cyfoes.
Am yr eildro yn ei hanes, dyma Volcano yn ail-ddyfeisio trasiedi gyflym, huawdl Shakespeare; y tro hwn yng nghwmni cenhedlaeth newydd o berfformwyr arobryn.



