
Mae’r band hwn a ffurfiwyd yn Santa Cruz, Califfornia yn fand blŵs ac eto nid blŵs, gwerin ac eto nid gwerin, eneidiol ond nid canu’r enaid. Estynnwn groeso nôl i Marty O’Reilly a’r Old Soul Orchestra sy’n lansio eu halbwm newydd ‘Stereoscope’ yn ystod y daith hon yn y DU. Mae llais Marty yn hardd a thrawiadol, ei eiriau yn foel ac eto’n gyfoethog uwchben y gitâr drydan arw. Mae ffidil Chris Lynch, offerynnau taro Matt Goff a bas dwfn Ben Berry yn asio’n hyfryd. Mae’r cyd-ddeall rhwng y ffrindiau yma yn amlwg. Mae nhw’n mynd o ganu blŵs gospel amrwd i seiniau epig sinematig, o sain ymwthiol grŵfs trwm i ganeuon gwerin wedi eu trefnu’n gywrain. Mae nhw’n gadael y llwyfan allan o wynt yn lân, a thannau wedi torri a llinynnau bwâu dros y llawr i gyd.
“A band true to its name: soulful” – NPR
Raw musical excellence… guitar, fiddle and double bass played to within an inch of their inanimate lives.
– 4000 Miles to Nashville
Vocals/Llais, Guitar/Gitâr / Marty O’Reilly
Violin/ Ffidil, Keys/Allweddellau / Chris Lynch
Drums/Drymiau, Percussion/Offerynnau Taro / Matt Goff
Bass / Bas Ben Berry
Supported by Night Out



