
Dewch i ddathlu ein Nawddsant Cenedlaethol, ein hunaniaeth Cymreig a’r iaith Gymraeg ar ddydd Gwener Mawrth 1af o 1yp – 2yp. Mae croeso i bawb ymuno yn y Parêd yn Aberteifi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a lansiad ein Parêd Gŵyl Dewi cyntaf sydd yn cael ei drefnu gan Cered.
Fe fydd Draig Goch ffyrnig ac anferth yn rhuo ym mlaen yr orymdaith gan adael Neuadd y Dref am 1yp gan ddilyn y Stryd Fawr yr holl ffordd i Gastell Aberteifi ble fydd yna seremoni cyhoeddus a mwy o adloniant. Os hoffech wylio neu gymryd rhan yn y Parêd dylech ymgynnull yn Neuadd y Dref am 12.30yp. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Cered ar 01545 572 350 neu cered@ceredigion.gov.uk


