
Bydd Parêd Llusernau Enfawr yn goleuo Aberteifi ar 7 Rhagfyr 2018!
Pleser mawr gan Theatr Byd Bychan yw cyhoeddi y bydd Aberteifi yn gallu edrych ymlaen at Barêd Llusernau Enfawr creadigol a dychmygus arall ar 7 Rhagfyr 7yh, diolch i grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Hoffen ni hefyd ddiolch i Bagiau Help Tesco am eu cyfraniad i’r gweithdai gwneud llusernau a deunyddiau.
Eleni byddwn yn dathlu Blwyddyn y Môr Croeso Cymru ac yn creu llusernau o faint enfawr yn ogystal â channoedd o lusernau bychain ar gyfer gorymdaith wefreiddiol. Bydd y Parêd yn symud ar hyd Stryd Fawr Aberteifi ac yn gorffen ar dir Castell Aberteifi. Gallwch ddisgwyl gweld cannoedd o lusernau cychod bach yn llifo ochr yn ochr â llusernau siâp pysgod a digon o gerddoriaith a hwyl ar hyd y ffordd. Bydd y Parêd yn symud ar hyd Stryd Fawr Abertefi, i lawr Stryd Y Santes Fair, ar hyd Y Strand ac yn gorffen yng Nghastell Aberteifi.
Bydd digonedd o fwyd ar gael ar safle’r Castell gan y Cegin 1176 wedi ei goginio gan Tom Holden a’i dîm. Disgwylwch Mochyn Rhost traddodiadol, Cwn Poeth a Burgers chickpea a phupur coch wedo rostio (Ll). Bydd y bwyty hefyd yn cynnig siocled poeth blasus, gwin poeth Nadoligaidd a diodydd poeth eraill ar y bar.
Bydd Cragen, anghenfil môr Theatr Byd Bychan, yn ymddangos wedi ei goleuo gyda’r nôs ar yr Afon Teifi gan nodi diwedd ei thaith fawreddog #moroeddglan cragenmoroeddglan.cymru. Yn hytrach na chyrraedd Cei’r Tywysog Siarl, bydd hi’n ymddangos gyferbyn â’r Strand. Bydd y rhai sy’n rhan o’r Pared yn cael cyfle i edrych ar Cragen cyn iddynt barhau i dir y Castell.
Edrychwch am y gogwyr tân ac eleni mae Masnachwyr Tref Aberteifi hefyd wedi ariannu sioe tân gwyllt gwych i orffen y digwyddiad hwyliog hwn.
Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
http://aberteificreadigol.com/
cragenmoroeddglan.cymru




