
Pneûma:ˈnjuːmə, noun, Philosophy, Greek = wind, breath,
spirit, that which is blown or breathed
Archwiliad cyfareddol o’r anadl yw Pneûma, sy’n cynnig perfformiad hardd ac ymdrochol lle mae symudiad, sain, golau a delweddau gweledol yn cyfuno’n hudolus i gyfleu barddoneg anadl. Eiliad wrth eiliad ry’n ni’n tynnu ar yr awyr anweledig, yn dal persawr, seiniau, negeseuon ac arwyddion. Mae ein bywyd yn llawn chwedlau a delweddau o goelion gwerin am nerth bywhaol anadl – yn golli anadl a chael eich gwynt. Mae anadl yn arwydd o’n geni a’n diflannu o’r byd hwn. Wrth i ni wrando ar lanw a thrai anadl o fewn y corff, mae atgofion a breuddwydion yn codi i arwyneb ymwybyddiaeth, gan wneud ein synnwyr personol unigryw o fod yn fyw yn rhywbeth gweledol.


