
Cyflwynwyd gan bgroup a China Plate
Comisiynwyd gan y Rural Touring Dance Initiative, Warwick Arts Centre a Dance East
Mae hi’n 1978 ac, ymhell o’r tir mawr, mae Eric Valentine a Bernard Humphries ar ddyletswydd yng ngoleudy Echo Point, yn rhywle oddi ar arfordir Lloegr. Mae’r ddau, sy’n ddieithriaid i’w gilydd, newydd ddechrau gosod seiliau eu partneriaeth weithio ryfedd pan mae rhywbeth go anarferol yn digwydd.
Daw’r coreograffydd o fri rhyngwladol Ben Wright a’r awdur Stuart Warwick at ei gilydd yma i gyflwyno cynhyrchiad theatrig a mwyaf clós bgroup hyd yn hyn.
Chwedl iasol am gariad, angau ac angenfilod yw Point of Echoes, sy’n gyfuniad o naws ffilm Wes Anderson a braw annearol The Twilight Zone.



