
gyda Chris Kinsey a Kaite O’Reilly
Ymunwch â ni am noson o ddarlleniadau a pherfformiadau byr, gan ddiweddu gyda lansiad casgliad cerddi newydd Chris Kinsey, ‘From Rowan Ridge’ (Fair Acre Press). Bydd Chris a Kaite yn cyflwyno darnau o’u cyhoeddiadau – dramâu arobryn, monologau dramatig a barddoniaeth wobrwyol mewn dathliad o’r gair llafar ac ysgrifenedig.
Mae gwaith Chris Kinsey wedi ei ysbrydoli gan dirwedd gororau Canolbarth Cymru, bywyd gwyllt a phobl. Mae wedi ennill gwobr Inspired by Nature Natur Cymru ac wedi bod yn Fardd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn i’r BBC. Comisiynwyd a chyhoeddwyd From Rowan Ridge, ei phumed casgliad o gerddi, gan Fair Acre Press, 2019. Mae ganddi brofiad eang o addysgu ac roedd yn Awdur Preswyl yn Oriel Davies.
Mae Kaite O’Reilly yn awdur a dramodydd aml-wobrwyol. Ymhlith ei gwobrau mae Gwobr Ted Hughes am waith barddoniaeth newydd sef ‘Persians’ (National Theatre Wales), drama orau’r flwyddyn ar gyfer Theatre-Wales, gwobrwyon theatr Manceinion a Gwobr Peggy Ramsay. Ar hyn o bryd mae ar restr fer gwobr ryngwladol James Tait Black am Ddrama. Cyhoeddir ei dramâu gan Faber ac Oberon ac mae nhw wedi eu cyfieithu/cynhyrchu mewn tair ar ddeg o wledydd ar draws y byd.


