
Sioe gerddorol deithiol newydd yw Res Publica, gan y band gwych o’r De Orllewin The People’s String Foundation, sef y feiolinydd penigamp Ben Sutcliffe a’r cyd-sylfaenydd a chyfansoddwr Zaid Al-Rikabi. Mae’r ddeuawd fyw yn cywasgu Cerddorfa Sipsi 32 darn i mewn i siwtcês a mynd â’u ‘Cerddorfa Rithiol’ ar daith i berfformio eu halbym newydd ‘Res Publica’ i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad. Bydd y gerddoriaeth hon yn siŵr o gyflymu eich calon, rhoi bywyd yn eich bodiau, a chynhesu eich enaid gyda chyfuniad o gerddoriaeth, pyped-waith, celf, sinematograffi ac animeiddio. Mae’r stori yn adrodd hanes un enaid unig, sef pyped marionét sy’n chwilio am ystyr yn ein hoes gythryblus ni. Gan blethu gyda sain ffidil y feiolinydd a gwau yn llyfn trwy gyflwyniadau cerddorol ar ffilm, mae taith y pyped yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrne emosiynol a diddorol. Mae Res Publica yn broject unigryw sy’n cyfuno sawl ffurf gelfyddydol i greu sioe ymdrochol, llawn bywyd wedi ei chreu gan bobl broffesiynol a dawnus byd ffilm a theatr.
Mae ail hanner y sioe yn cynnig cyfle i gynulleidfa glywed caneuon mwyaf poblogaidd The People’s Foundation a chyfansoddiadau o’u cyfnod yn gweithio fel cyfarwyddwyr cerddorol ar gyfer cwmnïau megis Kneehigh a Rogue Theatre a The Minack.



