Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyflwyniad i Sgiliau Syrcas 12 – 16

25th Chwefror 2022 @ 2:00 pm - 3:30 pm

Mae’n ddrwg gennym ond mae hwn yn llawn. Cysylltwch â info@smallworld.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi os daw lle ar gael. Diolch.

Mae’r sesiwn hon ar gyfer rhai 12 – 16 oed.

Diwrnod llawn hwyl fydd i gyflwyno amrywiaeth o sgiliau syrcas gyda hyfforddwr arbenigol. Fe gewch chi gyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol a rhoi tro ar dechnegau gwahanol gan gynnwys jyglo gyda sgarffiau, pastynau a pheli, clownio, rhaff lac a diabolo. Bydd y sesiynau hyn yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd ac yn dipyn o hwyl i ddechreuwyr.

Beth i ddod gyda chi: dewch â gorchudd wyneb (ar gyfer oedrannau 11+), potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.

Winter of Wellbeing activities are funded by Welsh Government and coordinated by Ceredigion County Council.

#WinterOfWellbeing
#GaeafLlawnLles

++++

Archebu 
Tocynnau Eventbrite

++++

 

Archebu’ch Lle Ar-lein

A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.

Beth i ddod gyda chi

Dewch â gorchudd wyneb (ar gyfer oedrannau 11+), potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.

Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.

Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn.

Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.

Details

Date:
25th Chwefror 2022
Time:
2:00 pm - 3:30 pm
Event Category:
Event Tags:
, , , , , ,

Trefnydd

Small World Theatre
Phone:
01239 615 952
View Trefnydd Website

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).