
Gyda chefnogaeth
Ers iddyn nhw ffurfio yn Valencia yn 2012, mae’r prosiect fusion gwreiddiol Solana wedi bod yn swyno gwrandawyr gyda’u sain rhythmig cymhleth a’u harmonïau cyfoethog a ysbrydolwyd gan draddodiadau gwerin byd eang. O dan ddylanwad mawrion amrywiol fel Tigran Hamasyan, Kila, Vicente Amigo a Dhafer Youssef, mae sain Solana yn gymhleth o ran curiad ac yn gyfoethog o ran harmonïau. Mae Tamsin (ffliwt/acordion) a Rowen (ffidil) yn gwau ynghyd felodïau a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin a klezmer. Mae gwaith drymio Elio o dan ddylanwad miwsig Lladin, Affricanaidd a reggae a gitâr fflamenco JP yn cael eu clymu at ei gilydd gan linellau bas deinamig Henry. Bydd y band yn eu helfen yn chwarae i griw bywiog!
Their music ranges boldly from klezmer melodies, tingling tango, exuberant Irish folk and swinging jazz to pumping reggae and lilting Latin […] thoroughly invigorating
Songlines
They make my spice shelf look boring… an accomplished and colourful album
Folk Radio UK
Pan nad yw nhw yn chwarae cerddoriaeth, mae aelodau Solana i’w cael yn gwneud siytni, seiclo pellterau mawr ac yn cywiro pobl sy’n methu ynganu ‘paella’ yn gywir.
https://www.youtube.com/watch?v=k5uvzJGd8Jg


