Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Syrcas Awyr ar gyfer plant gydag anableddau corfforol

21st Chwefror 2022 @ 2:00 pm - 3:30 pm

Mae’r sesiwn hon yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc 8 – 16 mlwydd oed sydd ag anabledd corfforol ac sy’n byw yng Ngheredigion. 

Sesiwn sgiliau awyr ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau corfforol a gynlluniwyd i fod yn ymatebol i’w hanghenion unigol. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y profiad synhwyraidd a chreadigrwydd, byddwn yn gweithio ar y cyd gyda phob cyfrannydd, gan archwilio cyfarpar syrcas traddodiadol i ddarganfod yr addasiadau fydd yn galluogi pawb i archwilio sut beth yw bod yn yr awyr yn eu ffordd eu hunain.

Bydd 3 aelod o staff yn gweithio gyda 5 myfyriwr. Byddwn yn annog rhieni/gofalwyr neu weithwyr cefnogi i aros ac ymuno yn y sesiwn os fydd y person ifanc sy’n mynychu angen cefnogaeth ychwanegol. Pan fyddwch yn cofrestru, rhowch gymaint o wybodaeth ag y medrwch am anghenion mynediad er mwyn i ni fedru paratoi a theilwra’r profiad at anghenion y grŵp. Diolch.

Beth i’w wisgo: dillad cysurus sy’n ffitio’r corff y medrwch chi deimlo’n gyfforddus i symud ynddyn nhw, gan gynnwys top y medrwch droi wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’r dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Tynnwch unrhyw emwaith.

Noddir gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru a chydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

++++

Archebu yma
Tocynnau Eventbrite
Tocynnau ar werth o 2 Chwefror 00:00

 

++++

Archebu’ch Lle Ar-lein

A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.

Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon.

Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Ffon: 01239 615 952, info@smallworld.org.uk

Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.

 

 

Details

Date:
21st Chwefror 2022
Time:
2:00 pm - 3:30 pm
Event Category:

Trefnydd

Small World Theatre
Phone:
01239 615 952
View Trefnydd Website

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).