
Mae’r sesiwn hon ar gyfer plant a phobl ifanc 8 – 18 mlwydd oed sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD).
Sesiwn sgiliau awyr ar gyfer pobl ifanc sydd ar sbectrwm awtistiaeth a gynlluniwyd i fod yn ymatebol i’w hanghenion unigol. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y profiad synhwyraidd, bydd cyfle i ddringo, troelli neu ymlacio mewn hamogau awyr lliwgar, ac archwilio’r offer mewn sesiwn ddiogel a chroesawgar.
Bydd 3 aelod o staff yn gweithio gyda 5 myfyriwr. Byddwn yn annog rhieni/gofalwyr neu weithwyr cefnogi i aros ac ymuno yn y sesiwn os fydd y person ifanc sy’n mynychu angen cefnogaeth ychwanegol. Pan fyddwch yn cofrestru, rhowch gymaint o wybodaeth ag y medrwch am anghenion mynediad er mwyn i ni fedru paratoi a theilwra’r profiad at anghenion y grŵp. Diolch.
Beth i’w wisgo: dillad cysurus sy’n ffitio’r corff y medrwch chi deimlo’n gyfforddus i symud ynddyn nhw, gan gynnwys top y medrwch droi wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’r dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Tynnwch unrhyw emwaith.
Winter of Wellbeing activities are funded by Welsh Government and coordinated by Ceredigion County Council.
++++
Noddir gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru a chydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.
Archebu yma
Tocynnau Eventbrite
Tocynnau ar werth o 2 Chwefror 00:00
++++
Archebu’ch Lle Ar-lein
A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.
Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon.
Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Ffon: 01239 615 952, info@smallworld.org.uk
Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.




