
I ddathlu agor Canolfan S4C Yr Egin mi fydd pythefnos o weithgareddau amrywiol o’r 22 Hydref i 3 Tachwedd. Un o’r dathliadau cyffrous ar y thema goleuni ac egni fydd taith llusernau o Rhodfa Santes Catrin, sydd yng nghanol tref hynafol Caerfyrddin i fyny Heol y Coleg i’r Egin ei hun. Mae’r Egin yn ddatblygiad arloesol, yn ganolfan a fydd yn sbarduno syniadau a chysylltiadau, yn bair creadigol ac yn feithrinfa ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid. Dyma gyfle i’r gymuned gyfan o’r ieuengaf i’r hynaf gymryd rhan a chynnau fflam creadigrwydd mewn digwyddiad arbennig i danio cyfnod newydd i Gaerfyrddin, Sir Gâr, gorllewin Cymru a’r genedl gyfan.
Lantern Making Workshops
Saturdays – 13 and 20 October, 2018 | 10:00 – 15:00
Prezzo, St Catherine’s Walk, Carmarthen
A fantastic chance to take part in one of the many exciting celebrations to mark the opening of Canolfan S4C Yr Egin. In a fun and free workshop run by Small World Theatre, there will be an opportunity for everyone to make their own pyramid lantern, ready for the Parade on the 25 October in Carmarthen.
There’s a maximum of 30 places on each workshop, please book today so that you don’t miss out. This link takes you straight to the booking site on behalf of Enjoy!
ARCHEBU 13 Hydref tocyn.cymru
ARCHEBU 20 Hydref tocyn.cymru
Canolfan greadigol, digidol a diwylliannol gyda phencadlys S4C yn ganolog. Yn sbarduno syniadau a chysylltiadau wrth feithrin talentau a rhannu adnoddau. Dewch draw i brofi gweithdy, perfformiad, sgwrs neu galwch heibio’r caffi am flas o Sir Gâr. Yn agor Hydref 2018. Canolfan S4C Yr Egin : Yn tanio egni creadigol Cymru.



