
rhaglen:
9:30yb Cyrraedd a lluniaeth
10yb – sgyrsiau artistiaid a thrafodaeth cynulleidfa
12yp – 12.45yp cinio yn Theatr Byd Bychan
1yp – taith dywys o gwmpas Ceibwr
5yp Te, cacen a chrynodeb yn Theatr y Byd Bach
Ry’n ni’n cyflwyno’r ail o’n digwyddiadau TRWCO gan ddarparu cyfle i feddwl a dechrau sgwrs am newid hinsawdd. Mae gan Fae Ceibwr, Sir Benfro, flodau gwyllt arbennig ar hyd ei arfordir sy’n cynnwys planhigion blodeuog, cen ac algae sy’n byw o fewn parth y llanw a bryophytiaid. Bydd Pat Wolseley, arbenigwraig ar fotaneg, yn arwain taith maes yng nghwmni Fern Smith a Sean Vicary i edrych yn fanwl ar beth sy’n tyfu yna a sut mae’n llwyddo byw yn y man lle y mae.
Mae Pat Wolseley yn gweithio yn y Natural History Museum ac mae’n arbenigwraig ar gennau fel bio-arwyddion o lygredd a newid hinsawdd ym Mhrydain a De Ddwyrain Asia. Fe’i magwyd ar fferm yn Sir Benfro ac fe fydd yn trafod sut y gall ei hastudiaethau dros gyfnod o 40 mlynedd yn nhirwedd Sir Benfro ddweud mwy wrthym am barhad a cholled dros ganrifoedd o newid.
Mae Fern Smith yn gyd-sylfaenydd Theatr Volcano a sefydlwr Emergence. Ar hyn o bryd mae wedi derbyn Gwobr Creadigrwydd Cymru ac mae’n artist preswyl yn Theatr Byd Bychan. Hi fydd yn arwain y sgwrs am rôl celfyddyd a deialog wrth drawsnewid i gymdeithas gynaliadwy.
Yn Aberteifi mae Sean Vicary yn byw ac mae’n defnyddio animeiddio a delweddau symudol i archwilio ein perthynas â’r byd ‘naturiol’. Mae yntau hefyd wedi derbyn Gwobr Creadigrwydd Cymru ac mae’n defnyddio blodau, creaduriaid a thirwedd Ceibwr yn ei ymchwil.
Croeso i bawb i rannu eu straeon a’u profiadau. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o drafodaeth gynyddol ar newid hinsawdd, byw’n gynaliadwy ac adeiladu dyfodol cadarnhaol.
ARCHEBU: £12 gan gynnwys cinio.



