Treuliwch brynhawn ysgogol gydag awduron gwobrwyol yn anwesu geiriau a meithrin eich crefft mewn dau weithdy ysgrifennu gwahanol, yna dewch â’r dydd i ben gyda darlleniadau dathliadol a lansiad llyfr. Bydd Chris Kinsey a Kaite O’Reilly ill dwy yn arwain gweithdy dwy awr, gan groesawu ysgrifenwyr ym mhob cyfrwng – barddoniaeth, rhyddiaith, y gair llafar, perfformiad byw – i ddechreuwyr a’r mwy profiadol.
Chris Kinsey – Blood from Stone
1pm – 3pm
Ymgorffori’r elfennol a’r amgylcheddol. Ysgrifennu gan ddefnyddio’r synhwyrau a chyfoethogi argraffiadau trwy drosiadau a dewisiadau sain. Cloddiwch yn ddwfn i’r byd elfennaidd er mwyn ysgrifennu gydag angerdd ac eglurdeb. Tynnwch ysbrydoliaeth o’r byd naturiol trwy amrywiaeth o dasgau tywys a rhannu profiadau.
Kaite O’Reilly – Planting the Seeds
Ysgrifennu ymdrochol gan dynnu ar y synhwyrau, cof a dychymyg. Mae ysgrifennu yn broses o ddarganfod ac archwilio. Mewn cyfres o ymarferion strwythuredig bydd pawb yn cael eu hannog i archwilio gwead, deinameg ac angerdd wrth ysgrifennu ar gyfer y llais byw ac, ar y daith, plannu hadau ar gyfer gwaith i ddod o bosib.
£30 (entry to evening performance included in the workshop fee)



