
Ymunwch â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yng Nghymru wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod.
Arddangosfa: 100 o Fenywod Cymreig
14:00 – 20:00
Am dim
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi creu rhestr o 100 o Fenywod Cymreig (ac mae’n tyfu) er mwyn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Dewch i ddathlu eu cyfraniad i’n bywyd cenedlaethol a’r modd y maent yn ysbrydoliaeth i fenywod sydd wrthi’n ffurfio dyfodol Cymru.
Gweithdy Zine
15:30 – 17:45
Am ddim galwch i mewn
Wedi’i ysbrydoli gan Cranogwen (Sarah Jane Rees), ymunwch â’r bardd a’r cyhoeddwr Nicky Arscott er mwyn archwilio hunanfynegiant drwy ddiwylliant y zine radical a chael profiad ymarferol o greu ‘zine-dy-hun’. Cranogwen oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, hi oedd Golygydd Y Frythones, ‘llwyfan i ferched deallus o Gymru ac egin swffragetiaid.’
Climate Challenge
Tyfu-Gartref Cwmni Theatr Playback
18:00 – 20:00
£8 | £5 gostyngiadau
Theatr gymunedol ryngweithiol ar ei orau yw Playback, byrfyfyrio gydag ychydig bach o hud a lledrith; weithiau mae’n angerddol, weithiau mae’n ddoniol. Noson unigryw, na fydd ei thebyg fydd hon, ble gallwch chi rannu eich straeon am fywyd, am gyfartaledd a hawliau merched mwy ac am ein hamgylchedd sy’n newid o hyd yn hinsawdd heriol heddiw.
llun: Jon Pountney
Delwedd drwy garedigrwydd Nicky Arscott



