
Y mae diléit mewn pethau GWYLLT a’r gofal amdanynt wedi’u gweu drwy’r gwaith dawns hwn a berfformir ac a goreograffir gan bobl ifanc 10-13 oed, mae wedi’i gyfarwyddo gan Stirling Steward ac Eeva-Maria Mutka. Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r hyn sydd ‘o bwys’ i ni ac i’n byd drwy gyfrwng gweithdai dawns ac ymarferion dros gyfnod o 10 mis. Mae’r pwyslais ar adeiladu hyder ac ymddiriedaeth yn unigol ac fel grŵp.
Ymunwch â ni i ddathlu egni a deallusrwydd y dawnswyr ifanc hyn wrth iddyn nhw ein harwain ni drwy berfformiad sy’n bywiogi’r synhwyrau ac yn gofyn i ni ymddiried yn ein cyrff ac ym mywyd gwyllt; i dendio i’r manylion ac i eangderau y GWYLLT oddi mewn i ni a thu allan.




