
Dewch i bartïa i guriad cerrynt tanbaid Afrobeat byw a seiniau reggae/dyb y Nadolig hwn!
Mae YAMÄYA yn cynnwys y lleisydd pwerus o Senegal, Khadim Sarr, ac aelodau o fandiau sefydlog fel Lakuta, The Gentle Mystics a The Voodoo Love Orchestra. Gyda’i gilydd mae’r criw cydweithredol hwn o gerddorion o Brighton yn creu miwsig groove sydd wedi ei ysbrydoli gan ynni crai a phŵer y gwir affrobeat cynnar.
Mae YAMÄYA yn ehangu ar eu gwreiddiau yn Nigeria gan dynnu ar ddylanwadau o ehangder mawr cyfandir Affrica, o Baye Fall a Griots yn y gorllewin i Ethiopiques yn y dwyrain. Mae’r band hwn yn ceisio mowldio cerddoriaeth ar gyfer y dyfodol trwy gyfuno gwreiddiau Affricanaidd gydag arddulliau modern o dyb i hip hop, jazz a thu hwnt!
mayamitten.com
yamayamusic.com



