
Cwmni theatr newydd yng Nghaerdydd yw YEAH YEAH sy’n datblygu theatr gig ddyrchafol. Mae hwn yn groesfan gyffrous i’r rhai sy’n mwynhau theatr gorfforol, theatr gerddorol, bandiau teyrnged, dawns a chomedi. Gallwch ddisgwyl parodi, cerddoriaeth eiconig a chaneuon roc y byddwch chi’n eu hadnabod a’u caru. Bydd drymiau byw, keytar, spangles, lycra a digon o chwerthin.
Mae YEAH YEAH yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r gynulleidfa yn Theatr Byd Bychan ar yr adeg hollbwysig hon wrth ddatblygu’r gwaith ‘Magical Place’ (teitl gweithio). Bydd perfformiad ac amser i gasglu adborth y gynulleidfa. Yn addas ar gyfer 16+ oed.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Hyd: 1 awr (a fydd yn cynnwys adborth gan y gynulleidfa)
Perfformwyr a Dyfeiswyr: Tori Johns, Morgan Thomas
Cyfarwyddwr: Hazel Anderson
Dramaturg: Chelsey Gillard
Goleuadau a Sain: Gavin Hales
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau RhCT / Angela Gould




