Marchnad FLEat Marketplace

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

28 /3/20, 17:00 – 21:00 29/3/20, 11:00 – 15:00 Siopa Ardderchog, Danteithion a Phethau Gwych! Mae marchnad y gwneuthurwyr FLEat yn cyfuno bwyd blasus, dillad vintage, unigryw, manion eraill a llawer mwy. Mae’r stondinwyr yn cynnwys (hyd yma) Bara Menyn, Bittersweet Feast, Our Two Acres, Tan a Mwg, Ice Green, Twirly Bakes, Gillys Coffee, Cardigan […]

BROKEN LINES/ Tingle/ What’s Occurring

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

BROKEN LINES Mae’r dalent newydd cerddorol BROKEN LINES yn fand sydd â dylanwadau ... o gerddoriaeth seiceledig, pync, roc, trydanol, gwerin ac unrhyw beth arall sy’n tanio’u dychymyg. Maen nhw’n chwarae set o ganeuon gwreiddiol, mae’r criw profiadol o gerddorion/cyfansoddwyr yn cynnig perfformiad egnïol, cynhyrfus sy’n rhychwantu hoffterau, eu gwleidyddiaeth a’u cariad tuag at gerddoriaeth. […]

WILD – GWYLLT

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Y mae diléit mewn pethau GWYLLT a’r gofal amdanynt wedi’u gweu drwy’r gwaith dawns hwn a berfformir ac a goreograffir gan bobl ifanc 10-13 oed, mae wedi’i gyfarwyddo gan Stirling Steward ac Eeva-Maria Mutka. Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r hyn sydd ‘o bwys’ i ni ac i’n byd drwy gyfrwng gweithdai dawns ac ymarferion dros […]

Cyffesion Dawnsiwr Teml Cocni

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Rydym ni oll yn dangos wynebau gwahanol i’r byd, ond mae rhai yn fwy gwahanol na’r rhan fwyaf. Yn y sioe un dyn doniol a hynod drawiadol yn weledol, mae Shane Shambhu yn datgelu’r bywyd cyfrinachol y bu’n cadw rhag ei ffrindiau, wrth dyfu i fyny yn nwyrain Llundain gosmopolitan. Dilynwch weddnewidiad Shane o “grwt […]

Gwyrddni Gwyllt Gwanwynol a Blodau Da i’w Bwyta

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Mae’r caeau’n orlawn o bethau gwyrdd gwyllt gwanwynol a blodau digon da i’w bwyta sy’n llawn fitaminau a daioni naturiol. Ymunwch â Jade Mellor ar daith o gwmpas ochr wylltach Aberteifi gan ddarllen am yr amrywiaeth helaeth o ddail a blodau bwytadwy sydd, yn ogystal â’u hel nhw. Dewch â basged, neu rywbeth tebyg er […]

Gweithdy Croesawgar i Bob Sgwennwr

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Dewch i ddiwrnod i weithdai sgwennu adfywiol gyda Kaite O'Reilly a Samantha Wynne-Rhydderch, caiff eich synhwyrau a’ch dychymyg eu bywiocáu. Kaite O’Reilly 13:00 - 15:00 Mewn cyfres o ymarferion strwythuredig, anogir cyfranogwyr i archwilio llais, deinameg, telynegrwydd a rhythm-tempo – gan adael y geiriau i godi o’r dudalen. Gallwch ysgrifennu deialog, geiriau i’w perfformio neu […]

The Carny Villains

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Band theatrig chwe darn yw Carny Villains o Fryste, maen nhw’n adnabyddus am ei cyfuniad swnllyd o ska stompllyd, swing a gwerin yn arddull y Balkan, a’r cyfan yn cael ei chwarae gyda’u hegni terfysgol o roc-pync. Mae eu sioeau byw enigmatig a bywiog yn parhau i fod heb eu hail o ran y gymysgedd […]

untitled: holy hiatus 13

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Mae’r digwyddiad perfformiadol chwe awr o hyd hwn yn darganfod sut mae gofod trothwyol yn cael ei greu, ei brofi a’i rannu, trwy ail-adrodd cymal o symudiad a chân o’r 13eg ganrif, a ddyfeisiwyd gan Lou Laurens. Bydd di-deitl 13 yn defnyddio 12 mlynedd o haenau o recordiadau i greu sainlun unigryw. Dewch i wylio, […]

Mourning in the Maze: Gwaith mewn llaw rhannu

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Cysyniad / Coreograffydd - Gitanjali Kolanad - Perfformwyr - Brandy Leary and Hans Wolfgramm mewn cydweithrediad â Phillip Zarrilli/ Kaite O'Reilly (Grŵp Llanarth Group) Perfformiad a ysbrydolwyd gan straeon a chymeriadau sydd yn y Mahabharata, mae’n archwilio tirwedd affeithiol galar a phathos. Datblygwyd y coreograffi o eirfa symudol atgofus y kalaripayattu- Kerala, celfyddyd ymladd India. […]

CABARET ar gyfer y Llwyfan Digidol

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Y cyntaf o gyfres o berfformiadau cabaret awr o hyd ar-lein i groesawu hen ffrindiau i'r Llwyfan Digidol ac arbrofi gyda thechnegau arloesol newydd. Byddwn yn cyflwyno cymeriadau pyped 2D newydd, gan gynnwys eich gwesteiwr ar gyfer y noson 'Beyond Compere' (a elwir hefyd yn Bill Hamblett) yn fyw o'r lleoliad. Caiff sioe Seriously Good […]

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).