Project Dawns Ieuenctid

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

WILD  Gydag Eeva-Maria Mutka, Stirling Steward a gwesteion Ar gyfer pobl ifanc 10 oed + Archwilio byrfyfyrio dawns a chyfansoddi er mwyn creu darn gwreiddiol o berfformiad. Amgylchedd cydweithiol hwyliog a chyfeillgar, dysgu patrymau symud, datblygu gallu dawnsio naturiol ac adeiladu hyder. Chwilio am eich llais unigryw eich hun...beth sy’n bwysig? Beth yw’r gwyllt? Small […]

Adventures of Prince Achmed (PG)

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Dangosiad o animeiddiad hudol Lotte Reiniger sy’n addas ar gyfer y teulu oll, gyda chyfle wedi hynny i gymryd rhan mewn gweithdy a chael blas ar animeiddio. Mae tywysog golygus yn marchogaeth ceffyl sy’n hedfan i diroedd pell ac yn cychwyn ar anturiaethau hudol, sy'n cynnwys gwneud ffrindiau gyda gwrach, cwrdd ag Aladdin, brwydro cythreuliaid […]

Noson Sgrîn Agored

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Croeso i bawb i Noson Sgrîn Agored arbennig i ddathlu 5 mlynedd o arddangos ffilmiau byrion. Ry’n ni’n cynnig gofod i wneuthurwyr ffilm arddangos eu gwaith, ar sail y cyntaf i’r felin, gan gyflwyno ystod eang o ddawn a chreadigrwydd. Mae croeso i bawb: artistiaid proffesiynol, gwneuthurwyr ffilm annibynnol/animeiddwyr neu aelodau o’r cyhoedd sydd â […]

Darganfod Atlantis – patrymau cyn-hanes

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Cyflwynir gan Robin Heath Ymunwch â ni am gyflwyniad llawn lluniau gan yr awdur a’r ymchwilydd Robin Heath. Fe deithiodd grwpiau arbenigol o bobl i bob cornel bron o’n byd cyndadol a hynny ar berwyl mawr. Gyda help rhyw ddewiniaeth dechnolegol hynod sydd heb ei chydnabod erioed, fe wnaethon nhw dorri, llyfnu, caboli a chodi […]

Res Publica

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Sioe gerddorol deithiol newydd yw Res Publica, gan y band gwych o’r De Orllewin The People’s String Foundation, sef y feiolinydd penigamp Ben Sutcliffe a’r cyd-sylfaenydd a chyfansoddwr Zaid Al-Rikabi. Mae’r ddeuawd fyw yn cywasgu Cerddorfa Sipsi 32 darn i mewn i siwtcês a mynd â’u ‘Cerddorfa Rithiol’ ar daith i berfformio eu halbym newydd […]

Gweithdai Gwneud Llusernau

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Gweithdy Cyhoeddus Gwneud Llusern Mae 4CG a Theatr Byd Bychan yn hynod falch i gyhoeddi bydd Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6ed Rhagfyr am 7pm, diolch i nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Eleni caiff y dorf o wylwyr a gwneuthurwyr llusernau eu cyflwyno i’r thema ‘Syrcas Aeafol’. Meddyliwch am syrcas oes-a-fu gyda clowniau, […]

Pneûma

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Pneûma:ˈnjuːmə, noun, Philosophy, Greek = wind, breath, spirit, that which is blown or breathed Archwiliad cyfareddol o’r anadl yw Pneûma, sy’n cynnig perfformiad hardd ac ymdrochol lle mae symudiad, sain, golau a delweddau gweledol yn cyfuno’n hudolus i gyfleu barddoneg anadl. Eiliad wrth eiliad ry’n ni’n tynnu ar yr awyr anweledig, yn dal persawr, seiniau, […]

Gweithdy Croesawu Pawb sy’n Ysgrifennu

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Treuliwch brynhawn ysgogol gydag awduron gwobrwyol yn anwesu geiriau a meithrin eich crefft mewn dau weithdy ysgrifennu gwahanol, yna dewch â’r dydd i ben gyda darlleniadau dathliadol a lansiad llyfr. Bydd Chris Kinsey a Kaite O’Reilly ill dwy yn arwain gweithdy dwy awr, gan groesawu ysgrifenwyr ym mhob cyfrwng – barddoniaeth, rhyddiaith, y gair llafar, […]

Darlleniadau a Lansio Llyfr ‘From Rowan Ridge’

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

gyda Chris Kinsey a Kaite O'Reilly Ymunwch â ni am noson o ddarlleniadau a pherfformiadau byr, gan ddiweddu gyda lansiad casgliad cerddi newydd Chris Kinsey, ‘From Rowan Ridge’ (Fair Acre Press). Bydd Chris a Kaite yn cyflwyno darnau o’u cyhoeddiadau – dramâu arobryn, monologau dramatig a barddoniaeth wobrwyol mewn dathliad o’r gair llafar ac ysgrifenedig. […]

Gweithdai Gwneud Llusernau

Theatr Byd Bychan Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion

Gweithdy Cyhoeddus Gwneud Llusern Mae 4CG a Theatr Byd Bychan yn hynod falch i gyhoeddi bydd Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6ed Rhagfyr am 7pm, diolch i nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Eleni caiff y dorf o wylwyr a gwneuthurwyr llusernau eu cyflwyno i’r thema ‘Syrcas Aeafol’. Meddyliwch am syrcas oes-a-fu gyda clowniau, […]

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).