BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Small World Theatre - ECPv5.16.1.1//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-ORIGINAL-URL:https://archive.smallworld.org.uk/cy/
X-WR-CALDESC:Events for Small World Theatre
REFRESH-INTERVAL;VALUE=DURATION:PT1H
X-Robots-Tag:noindex
X-PUBLISHED-TTL:PT1H
BEGIN:VTIMEZONE
TZID:Europe/London
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20220327T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20221030T010000
END:STANDARD
END:VTIMEZONE
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20220222T110000
DTEND;TZID=Europe/London:20220222T123000
DTSTAMP:20260409T091334
CREATED:20220126T110611Z
LAST-MODIFIED:20220204T104133Z
UID:25884-1645527600-1645533000@archive.smallworld.org.uk
SUMMARY:ACRO Rhieni a Phlant  8 - 16s
DESCRIPTION:Mae’n ddrwg gennym ond mae hwn yn llawn. Cysylltwch â info@smallworld.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi os daw lle ar gael. Diolch. \n  \nMae’r sesiwn hon ar gyfer plant/pobl ifanc 8 – 16 sydd yn dod gyda’u rhiant/gwarcheidwad. \nDyma ffordd hwyliog a chwareus o ddysgu sgiliau newydd mewn gwaith balans a chydbwysedd ac acrobateg ar gyfer hyd at ddau blentyn/person ifanc yng nghwmni eu rhiant/gwarcheidwad. Gyda’ch gilydd byddwch yn dysgu sut i ymddiried a sut o godi’ch gilydd yn ddiogel. Mae’r sesiwn hon yn agored i bob gallu. \nDylai rhieni/gwarcheidwaid archebu un lle i bob teulu a dychwelyd y ffurflen(ni) gweithgaredd ar gyfer y plentyn/plant y mae Theatr Byd Bychan yn ei anfon ar ôl i’r archeb gael ei gadarnhau. Os ydych chi’n dod â dau blentyn/person ifanc\, rhowch wybod i ni hefyd drwy e-bost info@smallworld.org.uk fel bod modd i ni addasu’r niferoedd yn unol â hynny. \nBeth i’w wisgo: dillad cysurus sy’n ffitio’n agos ar y corff\, rhai y teimlwch chi’n gysurus i symud ynddynt\, gan gynnwys crys neu dop y gallwch fod wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’ch dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Peidiwch â gwisgo gemwaith. \nBeth i ddod gyda chi: gorchudd wyneb\, mat i gynhesu arno\, potel ddŵr. \n  \nNoddir gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru a chydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.  \n#WinterOfWellbeing\n#GaeafLlawnLles \n  \n++++ \nArchebu yma\nTocynnau Eventbrite\nTocynnau ar werth o 7 Chwefror 00:00 \n  \n++++ \n  \nArchebu’ch Lle Ar-lein \nA wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad\, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu. \nBeth i ddod gyda chi\nDewch â gorchudd wyneb os gwelwch yn dda\, potel ddŵr a byrbryd os bydd angen. \nNiferoedd Cyfyngedig\nMae niferoedd yn gyfyngedig\, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn\, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon. \nMynediad a Pharcio\nMae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag\, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn. \nCysylltu â ni\nRydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol\, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol. \n 
URL:https://archive.smallworld.org.uk/cy/event/acro-rhieni-plant/
LOCATION:Theatr Byd Bychan\, Bath House Road\, Aberteifi\, Ceredigion\, SA43 1JY\, United Kingdom
CATEGORIES:Digwyddiadau Byw
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://archive.smallworld.org.uk/wp-content/uploads/2022/01/Insta_Square.jpg
END:VEVENT
END:VCALENDAR