Disgrifiad
Cynhaliodd Theatr Byd Bychan ddigwyddiad eithaf unigryw, sef ‘Dathliad Meigan Fayres’ yn Hydref 2011, sef cyfle yn y bôn i ddangos ffilm yn dyddio o 1975 a oedd wedi ei hail-ddarganfod. Cynhyrchwyd y ffilm ‘Meigan Fayre’ gan Paul Haggiag, a’i ffilmio a’i golygu gan Misha Norland. Mae’n ddogfen eithriadol o gyfnod, o is-ddiwylliant a gobeithion mudiad amgen. Ry’n ni’n teimlo bod y weledigaeth amgen hon am y dyfodol yn rhan bwysig o ddatblygiad yr ardal, ond mae tystiolaeth ffilm o’r fath arbrawf cymdeithasol yn beth prin iawn. Ai dyma un rheswm efallai pam fod y prif gyfryngau yn mynnu gwthio’i effaith allan i’r cyrion?
Roedd y digwyddiad yn un gwych, a hedfanodd rhai aelodau o’r gynulleidfa draw o’r UDA ac Awstralia. Daeth pawb er mwyn cael aduniad i ddathlu a chwarae a gwrando ar Mazaiba ar ei newydd wedd, a’r bythol-boblogaidd Smudger ynghyd ag artistiaid eraill o’r cyfnod, ond yn y bôn daeth pawb ynghyd i gofio ysbryd y Meigan Fayres.
Mae gan Theatr Byd Bychan yr hawl i gopïo nifer cyfyngedig o DVD’s o’r ffilm, ac ry’n ni wedi ychwanegu rhai pethau , megis ffotograffau o’r digwyddiad gwreiddiol a dathliad 2011.
Mae’r gost yn cynnwys postio yn y DU. Ffoniwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau 01239 615952, Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yp.





